20 Trefnaist dywyllwch, fel bod nos,a holl anifeiliaid y goedwig yn ymlusgo allan,
21 gyda'r llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth,ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw.
22 Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith,ac yn gorffwyso yn eu ffeuau.
23 A daw pobl allan i weithio,ac at eu llafur hyd yr hwyrnos.
24 Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD!Gwnaethost y cyfan mewn doethineb;y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid.
25 Dyma'r môr mawr a llydan,gydag ymlusgiaid dirifedia chreaduriaid bach a mawr.
26 Arno y mae'r llongau yn tramwyo,a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo.