22 Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith,ac yn gorffwyso yn eu ffeuau.
23 A daw pobl allan i weithio,ac at eu llafur hyd yr hwyrnos.
24 Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD!Gwnaethost y cyfan mewn doethineb;y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid.
25 Dyma'r môr mawr a llydan,gydag ymlusgiaid dirifedia chreaduriaid bach a mawr.
26 Arno y mae'r llongau yn tramwyo,a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo.
27 Y mae'r cyfan ohonynt yn dibynnu arnat tii roi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
28 Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd;pan agori dy law, cânt eu diwallu'n llwyr.