29 Ond pan guddi dy wyneb, fe'u drysir;pan gymeri eu hanadl, fe ddarfyddant,a dychwelyd i'r llwch.
30 Pan anfoni dy anadl, cânt eu creu,ac yr wyt yn adnewyddu wyneb y ddaear.
31 Bydded gogoniant yr ARGLWYDD dros byth,a bydded iddo lawenhau yn ei weithredoedd.
32 Pan yw'n edrych ar y ddaear, y mae'n crynu;pan yw'n cyffwrdd â'r mynyddoedd, y maent yn mygu.
33 Canaf i'r ARGLWYDD tra byddaf byw,rhof foliant i Dduw tra byddaf.
34 Bydded fy myfyrdod yn gymeradwy ganddo;yr wyf yn llawenhau yn yr ARGLWYDD.