8 a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd,i'r lle a bennaist ti iddynt;
9 rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi,rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear.
10 Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau,yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd;
11 rhônt ddiod i holl fwystfilod y maes,a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu;
12 y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl,ac yn trydar ymysg y canghennau.
13 Yr wyt yn dyfrhau'r mynyddoedd o'th balas;digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth.
14 Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg,a phlanhigion at wasanaeth pobl,i ddwyn allan fwyd o'r ddaear,