1 Diolchwch i'r ARGLWYDD. Galwch ar ei enw,gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
2 Canwch iddo, moliannwch ef,dywedwch am ei holl ryfeddodau.
3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd;llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
4 Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,ceisiwch ei wyneb bob amser.
5 Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth,ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
6 chwi ddisgynyddion Abraham, ei was,disgynyddion Jacob, ei etholedig.