12 Pan oeddent yn fychan o rif,yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
13 yn crwydro o genedl i genedl,ac o un deyrnas at bobl eraill,
14 ni adawodd i neb eu darostwng,ond ceryddodd frenhinoedd o'u hachos,
15 a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,na gwneud niwed i'm proffwydi.”
16 Pan alwodd am newyn dros y wlad,a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara,
17 yr oedd wedi anfon gŵr o'u blaenau,Joseff, a werthwyd yn gaethwas.
18 Doluriwyd ei draed yn y cyffion,a rhoesant haearn am ei wddf,