15 a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,na gwneud niwed i'm proffwydi.”
16 Pan alwodd am newyn dros y wlad,a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara,
17 yr oedd wedi anfon gŵr o'u blaenau,Joseff, a werthwyd yn gaethwas.
18 Doluriwyd ei draed yn y cyffion,a rhoesant haearn am ei wddf,
19 nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir,ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir.
20 Anfonodd y brenin i'w ryddhau—brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd;
21 gwnaeth ef yn feistr ar ei dŷ,ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo,