28 Anfonodd dywyllwch, ac aeth yn dywyll,eto yr oeddent yn gwrthryfela yn erbyn ei eiriau.
29 Trodd eu dyfroedd yn waed,a lladdodd eu pysgod.
30 Llanwyd eu tir â llyffaint,hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd.
31 Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfeda llau trwy'r holl wlad.
32 Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw,a mellt yn fflachio trwy eu gwlad.
33 Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd,a malurio'r coed trwy'r wlad.
34 Pan lefarodd ef, daeth locustiaida lindys heb rifedi,