6 chwi ddisgynyddion Abraham, ei was,disgynyddion Jacob, ei etholedig.
7 Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw,ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
8 Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth,gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
9 sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,a'i lw i Isaac—
10 yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
11 a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaanyn gyfran eich etifeddiaeth.”
12 Pan oeddent yn fychan o rif,yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,