13 Ond yn fuan yr oeddent wedi anghofio ei weithredoedd,ac nid oeddent yn aros am ei gyngor.
14 Daeth eu blys drostynt yn yr anialwch,ac yr oeddent yn profi Duw yn y diffeithwch.
15 Rhoes yntau iddynt yr hyn yr oeddent yn ei ofyn,ond anfonodd nychdod i'w mysg.
16 Yr oeddent yn cenfigennu yn y gwersyll wrth Moses,a hefyd wrth Aaron, un sanctaidd yr ARGLWYDD.
17 Yna agorodd y ddaear a llyncu Dathan,a gorchuddio cwmni Abiram.
18 Torrodd tân allan ymhlith y cwmni,a llosgwyd y drygionus yn y fflamau.
19 Gwnaethant lo yn Horeb,ac ymgrymu i'r ddelw,