36 Yr oeddent yn addoli eu delwau,a bu hynny'n fagl iddynt.
37 Yr oeddent yn aberthu eu meibiona'u merched i'r demoniaid.
38 Yr oeddent yn tywallt gwaed dieuog,gwaed eu meibion a'u merchedyr oeddent yn eu haberthu i ddelwau Canaan;a halogwyd y ddaear â'u gwaed.
39 Felly aethant yn aflan trwy'r hyn a wnaent,ac yn buteiniaid trwy eu gweithredoedd.
40 Yna cythruddodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl,a ffieiddiodd ei etifeddiaeth;
41 rhoddodd hwy yn llaw'r cenhedloedd,a llywodraethwyd hwy gan y rhai oedd yn eu casáu;
42 fe'u gorthrymwyd gan eu gelynion,a'u darostwng dan eu hawdurdod.