4 Cofia fi, ARGLWYDD, pan wnei ffafr â'th bobl;ymwêl â mi, pan fyddi'n gwaredu,
5 imi gael gweld llwyddiant y rhai a ddewisi,a llawenhau yn llawenydd dy genedl,a gorfoleddu gyda'th etifeddiaeth di.
6 Yr ydym ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu;yr ydym wedi troseddu a gwneud drygioni.
7 Pan oedd ein hynafiaid yn yr Aifftni wnaethant sylw o'th ryfeddodau,na chofio maint dy ffyddlondeb,ond gwrthryfela yn erbyn y Goruchaf ger y Môr Coch.
8 Ond gwaredodd ef hwy er mwyn ei enw,er mwyn dangos ei rym.
9 Ceryddodd y Môr Coch ac fe sychodd,ac arweiniodd hwy trwy'r dyfnder fel pe trwy'r anialwch.
10 Gwaredodd hwy o law'r rhai oedd yn eu casáu,a'u harbed o law'r gelyn.