41 rhoddodd hwy yn llaw'r cenhedloedd,a llywodraethwyd hwy gan y rhai oedd yn eu casáu;
42 fe'u gorthrymwyd gan eu gelynion,a'u darostwng dan eu hawdurdod.
43 Lawer gwaith y gwaredodd hwy,ond yr oeddent hwy yn wrthryfelgar eu bwriad,ac yn cael eu darostwng oherwydd eu drygioni.
44 Er hynny, cymerodd sylw o'u cyfyngderpan glywodd eu cri am gymorth;
45 cofiodd ei gyfamod â hwy,ac edifarhau oherwydd ei gariad mawr;
46 parodd iddynt gael trugareddgan bawb oedd yn eu caethiwo.
47 Gwareda ni, O ARGLWYDD ein Duw,a chynnull ni o blith y cenhedloedd,inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd,ac ymhyfrydu yn dy fawl.