44 Er hynny, cymerodd sylw o'u cyfyngderpan glywodd eu cri am gymorth;
45 cofiodd ei gyfamod â hwy,ac edifarhau oherwydd ei gariad mawr;
46 parodd iddynt gael trugareddgan bawb oedd yn eu caethiwo.
47 Gwareda ni, O ARGLWYDD ein Duw,a chynnull ni o blith y cenhedloedd,inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd,ac ymhyfrydu yn dy fawl.
48 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb;dyweded yr holl bobl, “Amen.”Molwch yr ARGLWYDD.