1 Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw;fe ganaf, a rhoi mawl.Deffro, fy enaid.
2 Deffro di, nabl a thelyn.Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.
3 Rhof ddiolch i ti, O ARGLWYDD, ymysg y bobloedd,a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,
4 oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,a'th wirionedd hyd y cymylau.