4 oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,a'th wirionedd hyd y cymylau.
5 Dyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
6 Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.
7 Llefarodd Duw yn ei gysegr,“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem,a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;
8 eiddof fi yw Gilead a Manasse;Effraim yw fy helm,a Jwda yw fy nheyrnwialen;
9 Moab yw fy nysgl ymolchi,ac at Edom y taflaf fy esgid;ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”
10 Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?Pwy a'm harwain i Edom?