6 Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.
7 Llefarodd Duw yn ei gysegr,“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem,a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;
8 eiddof fi yw Gilead a Manasse;Effraim yw fy helm,a Jwda yw fy nheyrnwialen;
9 Moab yw fy nysgl ymolchi,ac at Edom y taflaf fy esgid;ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”
10 Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?Pwy a'm harwain i Edom?
11 Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod,a pheidio â mynd allan gyda'n byddinoedd?
12 Rho inni gymorth rhag y gelyn,oherwydd ofer yw ymwared dynol.