1 Yn yr ARGLWYDD y cefais loches;sut y gallwch ddweud wrthyf,“Ffo fel aderyn i'r mynydd,
2 oherwydd y mae'r drygionus yn plygu'r bwaac yn gosod eu saethau yn y llinyni saethu yn y tywyllwch at yr uniawn”?
3 Os dinistrir y sylfeini,beth a wna'r cyfiawn?
4 Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd,a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd;y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw,a'i olygon yn ei phrofi.
5 Profa'r ARGLWYDD y cyfiawn a'r drygionus,a chas ganddo'r sawl sy'n caru trais.
6 Y mae'n glawio marwor tanllyd a brwmstan ar y drygionus;gwynt deifiol fydd eu rhan.