1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd:“Eistedd ar fy neheulaw,nes imi wneud dy elynion yn droedfainc i ti.”
2 Y mae'r ARGLWYDD yn estyn i ti o Seion deyrnwialen awdurdod;llywodraetha dithau yng nghanol dy elynion.
3 Y mae dy bobl yn deyrngar iti ar ddydd dy enimewn gogoniant sanctaidd o groth y wawr;fel gwlith y'th genhedlais di.
4 Tyngodd yr ARGLWYDD, ac ni newidia,“Yr wyt yn offeiriad am bythyn ôl urdd Melchisedec.”
5 Y mae'r Arglwydd ar dy ddeheulawyn dinistrio brenhinoedd yn nydd ei ddicter.
6 Fe weinydda farn ymysg y cenhedloedd,a'u llenwi â chelanedd;dinistria benaethiaiddros ddaear lydan.