1 Pan ddaeth Israel allan o'r Aifft,tŷ Jacob o blith pobl estron eu hiaith,
2 daeth Jwda yn gysegr iddo,ac Israel yn arglwyddiaeth iddo.
3 Edrychodd y môr a chilio,a throdd yr Iorddonen yn ei hôl.
4 Neidiodd y mynyddoedd fel hyrddod,a'r bryniau fel ŵyn.