3 Y mae ein Duw ni yn y nefoedd;fe wna beth bynnag a ddymuna.
4 Arian ac aur yw eu delwau hwy,ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.
5 Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,a llygaid nad ydynt yn gweld;
6 y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,a ffroenau nad ydynt yn arogli;
7 y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo,a thraed nad ydynt yn cerdded;ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau.
8 Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt,ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.
9 O Israel, ymddirieda yn yr ARGLWYDD.Ef yw eu cymorth a'u tarian.