1 Yr wyf yn caru'r ARGLWYDD, am iddo wrandoar lef fy ngweddi,
2 am iddo droi ei glust atafy dydd y gwaeddais arno.
3 Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf,a gefynnau Sheol wedi fy nal,a minnau'n dioddef adfyd ac ing.
4 Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD:“Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi.”
5 Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn,ac y mae ein Duw ni'n tosturio.
6 Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml;pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd.