7 Gorffwysa unwaith eto, fy enaid,oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt;
8 oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau,fy llygaid rhag dagrau,fy nhraed rhag baglu.
9 Rhodiaf gerbron yr ARGLWYDDyn nhir y rhai byw.
10 Yr oeddwn yn credu y byddwn wedi fy narostwng;cefais fy nghystuddio'n drwm;
11 yn fy nghyni dywedais,“Y mae pawb yn dwyllodrus.”
12 Sut y gallaf dalu i'r ARGLWYDDam ei holl haelioni tuag ataf?
13 Dyrchafaf gwpan iachawdwriaeth,a galw ar enw'r ARGLWYDD.