120 Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd,ac yr wyf yn ofni dy farnau.
121 Gwneuthum farn a chyfiawnder;paid â'm gadael i'm gorthrymwyr.
122 Bydd yn feichiau er lles dy was;paid â gadael i'r trahaus fy ngorthrymu.
123 Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth,ac am dy addewid o fuddugoliaeth.
124 Gwna â'th was yn ôl dy gariad,a dysg i mi dy ddeddfau.
125 Dy was wyf fi; rho imi ddealli wybod dy farnedigaethau.
126 Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu,oherwydd torrwyd dy gyfraith.