123 Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth,ac am dy addewid o fuddugoliaeth.
124 Gwna â'th was yn ôl dy gariad,a dysg i mi dy ddeddfau.
125 Dy was wyf fi; rho imi ddealli wybod dy farnedigaethau.
126 Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu,oherwydd torrwyd dy gyfraith.
127 Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynionyn fwy nag aur, nag aur coeth.
128 Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion,a chasâf lwybrau twyll.
129 Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol;am hynny yr wyf yn eu cadw.