139 Y mae fy nghynddaredd yn fy ysuam fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau.
140 Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr,ac y mae dy was yn ei charu.
141 Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod,nid wyf yn anghofio dy ofynion.
142 Y mae dy gyfiawnder di yn gyfiawnder tragwyddol,ac y mae dy gyfraith yn wirionedd.
143 Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf,ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion.
144 Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth;rho imi ddeall, fel y byddaf fyw.
145 Gwaeddaf â'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD,ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau.