159 Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad.
160 Hanfod dy air yw gwirionedd,ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol.
161 Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos,ond dy air di yw arswyd fy nghalon.
162 Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid,fel un sy'n cael ysbail fawr.
163 Yr wyf yn casáu ac yn ffieiddio twyll,ond yn caru dy gyfraith di.
164 Seithwaith y dydd yr wyf yn dy folioherwydd dy farnau cyfiawn.
165 Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch,ac nid oes dim yn peri iddynt faglu.