16 Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau,ac nid anghofiaf dy air.
17 Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw,ac fe gadwaf dy air.
18 Agor fy llygaid imi weldrhyfeddodau dy gyfraith.
19 Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf.
20 Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraetham dy farnau di bob amser.
21 Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedigsy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion.
22 Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad,oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau.