2 Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau,ac yn ei geisio ef â'u holl galon,
3 y rhai nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddrwg,ond sy'n rhodio yn ei ffyrdd ef.
4 Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfaui'w cadw'n ddyfal.
5 O na allwn gerdded yn unionsytha chadw dy ddeddfau!
6 Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaidar dy holl orchmynion.
7 Fe'th glodforaf di â chalon gywirwrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn.
8 Fe gadwaf dy ddeddfau;paid â'm gadael yn llwyr.