49 Cofia dy air i'th was,y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo.
50 Hyn fu fy nghysur mewn adfyd,fod dy addewid di yn fy adfywio.
51 Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd,ond ni throis oddi wrth dy gyfraith.
52 Yr wyf yn cofio dy farnau erioed,ac yn cael cysur ynddynt, O ARGLWYDD.
53 Cydia digofaint ynof oherwydd y rhai drygionussy'n gwrthod dy gyfraith.
54 Daeth dy ddeddfau'n gân i miymhle bynnag y bûm yn byw.
55 Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD,ac fe gadwaf dy gyfraith.