55 Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD,ac fe gadwaf dy gyfraith.
56 Hyn sydd wir amdanaf,imi ufuddhau i'th ofynion.
57 Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD;addewais gadw dy air.
58 Yr wyf yn erfyn arnat â'm holl galon,bydd drugarog wrthyf yn ôl dy addewid.
59 Pan feddyliaf am fy ffyrdd,trof fy nghamre'n ôl at dy farnedigaethau;
60 brysiaf, heb oedi,i gadw dy orchmynion.
61 Er i glymau'r drygionus dynhau amdanaf,eto nid anghofiais dy gyfraith.