59 Pan feddyliaf am fy ffyrdd,trof fy nghamre'n ôl at dy farnedigaethau;
60 brysiaf, heb oedi,i gadw dy orchmynion.
61 Er i glymau'r drygionus dynhau amdanaf,eto nid anghofiais dy gyfraith.
62 Codaf ganol nos i'th foliannu diam dy farnau cyfiawn.
63 Yr wyf yn gymar i bawb sy'n dy ofni,i'r rhai sy'n ufuddhau i'th ofynion.
64 Y mae'r ddaear, O ARGLWYDD, yn llawn o'th ffyddlondeb;dysg i mi dy ddeddfau.
65 Gwnaethost ddaioni i'th was,yn unol â'th air, O ARGLWYDD.