7 Fe'th glodforaf di â chalon gywirwrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn.
8 Fe gadwaf dy ddeddfau;paid â'm gadael yn llwyr.
9 Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân?Trwy gadw dy air di.
10 Fe'th geisiais di â'm holl galon;paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion.
11 Trysorais dy eiriau yn fy nghalonrhag imi bechu yn dy erbyn.
12 Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD;dysg i mi dy ddeddfau.
13 Bûm yn ailadrodd â'm gwefusauholl farnau dy enau.