79 Bydded i'r rhai sy'n dy ofni droi ataf fi,iddynt gael gwybod dy farnedigaethau.
80 Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau,rhag imi gael fy nghywilyddio.
81 Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth,ac yn gobeithio yn dy air;
82 y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid;dywedaf, “Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?”
83 Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg,eto nid anghofiaf dy ddeddfau.
84 Am ba hyd y disgwyl dy wascyn iti roi barn ar fy erlidwyr?
85 Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith,wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.