85 Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith,wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.
86 Y mae dy holl orchmynion yn sicr;pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi.
87 Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear,ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion.
88 Yn ôl dy gariad adfywia fi,ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.
89 Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.
90 Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.
91 Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw,oherwydd gweision i ti yw'r cyfan.