88 Yn ôl dy gariad adfywia fi,ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.
89 Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.
90 Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.
91 Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw,oherwydd gweision i ti yw'r cyfan.
92 Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi,byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd;
93 nid anghofiaf dy ofynion hyd byth,oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi.
94 Eiddot ti ydwyf; gwareda fi,oherwydd ceisiais dy ofynion.