93 nid anghofiaf dy ofynion hyd byth,oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi.
94 Eiddot ti ydwyf; gwareda fi,oherwydd ceisiais dy ofynion.
95 Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio,ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau.
96 Gwelaf fod popeth yn dod i ben,ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.
97 O fel yr wyf yn caru dy gyfraith!Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd.
98 Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion,oherwydd y mae gyda mi bob amser.
99 Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon,oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi.