99 Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon,oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi.
100 Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen,oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion.
101 Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg,er mwyn imi gadw dy air.
102 Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau,oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo.
103 Mor felys yw dy addewid i'm genau,melysach na mêl i'm gwefusau.
104 O'th ofynion di y caf ddeall;dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.
105 Y mae dy air yn llusern i'm troed,ac yn oleuni i'm llwybr.