2 Y mae ein traed bellach yn sefyllo fewn dy byrth, O Jerwsalem.
3 Adeiladwyd Jerwsalem yn ddinaslle'r unir y bobl â'i gilydd.
4 Yno yr esgyn y llwythau,llwythau'r ARGLWYDD,fel y gorchmynnwyd i Israel,i roi diolch i enw'r ARGLWYDD.
5 Yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn,gorseddfeinciau tŷ Dafydd.
6 Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem,“Bydded llwyddiant i'r rhai sy'n dy garu;
7 bydded heddwch o fewn dy furiau,a diogelwch o fewn dy geyrydd.”
8 Er mwyn fy nghydnabod a'm cyfeillion,dywedaf, “Bydded heddwch i ti.”