1 Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r ARGLWYDDac yn rhodio yn ei ffyrdd.
2 Cei fwyta o ffrwyth dy lafur;byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.
3 Bydd dy wraig yng nghanol dy dŷfel gwinwydden ffrwythlon,a'th blant o amgylch dy fwrddfel blagur olewydd.
4 Wele, fel hyn y bendithir y sawlsy'n ofni'r ARGLWYDD.
5 Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio o Seion,iti gael gweld llwyddiant Jerwsalemholl ddyddiau dy fywyd,