2 Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid,a gofid yn fy nghalon ddydd ar ôl dydd?Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi?
3 Edrych arnaf ac ateb fi, O ARGLWYDD fy Nuw;goleua fy llygaid rhag imi gysgu hun marwolaeth,
4 rhag i'm gelyn ddweud, “Gorchfygais ef”,ac i'm gwrthwynebwyr lawenhau pan gwympaf.
5 Ond yr wyf fi'n ymddiried yn dy ffyddlondeb,a chaiff fy nghalon lawenhau yn dy waredigaeth;canaf i'r ARGLWYDD,am iddo fod mor hael wrthyf.