9 Bydded dy offeiriaid wedi eu gwisgo â chyfiawnder,a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu.”
10 Er mwyn Dafydd dy was,paid â throi oddi wrth wyneb dy eneiniog.
11 Tyngodd yr ARGLWYDD i Ddafyddadduned sicr na thry oddi wrthi:“O ffrwyth dy gorffy gosodaf un ar dy orsedd.
12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod,a'r tystiolaethau a ddysgaf iddynt,bydd eu meibion hwythau hyd bythyn eistedd ar dy orsedd.”
13 Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion,a'i chwennych yn drigfan iddo:
14 “Dyma fy ngorffwysfa am byth;yma y trigaf am imi ei dewis.
15 Bendithiaf hi â digonedd o ymborth,a digonaf ei thlodion â bara.