1 Clodforaf di â'm holl galon,canaf fawl i ti yng ngŵydd duwiau.
2 Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd,a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb,oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.
3 Pan elwais arnat, atebaist fi,a chynyddaist fy nerth ynof.
4 Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD,am iddynt glywed geiriau dy enau;
5 bydded iddynt ganu am ffyrdd yr ARGLWYDD,oherwydd mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.