4 Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygionisy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?
5 Yno y byddant mewn dychryn mawr,am fod Duw yng nghanol y rhai cyfiawn.
6 Er i chwi watwar cyngor yr anghenus,yr ARGLWYDD yw ei noddfa.
7 O na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion!Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl,fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.