1 O ARGLWYDD, gwared fi rhag pobl ddrygionus;cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,
2 rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon,a phob amser yn codi cythrwfl.
3 Y mae eu tafod yn finiog fel sarff,ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau.Sela
4 O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus;cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.