5 Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi,a rhai dinistriol yn taenu rhwyd,ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd.Sela
6 Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Fy Nuw wyt ti”;gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi.
7 O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn,cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
8 O ARGLWYDD, paid â rhoi eu dymuniad i'r drygionus,paid â llwyddo eu bwriad.Sela
9 Y mae rhai o'm hamgylch yn codi eu pen,ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu.
10 Bydded i farwor tanllyd syrthio arnynt;bwrier hwy i ffosydd dyfnion heb allu codi.
11 Na fydded lle i'r enllibus yn y wlad;bydded i ddrygioni ymlid y gorthrymwr yn ddiarbed.