7 O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn,cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
8 O ARGLWYDD, paid â rhoi eu dymuniad i'r drygionus,paid â llwyddo eu bwriad.Sela
9 Y mae rhai o'm hamgylch yn codi eu pen,ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu.
10 Bydded i farwor tanllyd syrthio arnynt;bwrier hwy i ffosydd dyfnion heb allu codi.
11 Na fydded lle i'r enllibus yn y wlad;bydded i ddrygioni ymlid y gorthrymwr yn ddiarbed.
12 Gwn y gwna'r ARGLWYDD gyfiawnder â'r truan,ac y rhydd farn i'r anghenus.
13 Yn sicr bydd y cyfiawn yn clodfori dy enw;bydd yr uniawn yn byw yn dy bresenoldeb.