1 Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,ymbiliaf yn uchel ar yr ARGLWYDD.
2 Arllwysaf fy nghwyn o'i flaen,a mynegaf fy nghyfyngder yn ei bresenoldeb.
3 Pan yw fy ysbryd yn pallu,yr wyt ti'n gwybod fy llwybr.Ar y llwybr a gerddafy maent wedi cuddio magl.
4 Edrychaf i'r dde, a gweldnad oes neb yn gyfaill imi;nid oes dihangfa imi,na neb yn malio amdanaf.
5 Gwaeddais arnat ti, O ARGLWYDD;dywedais, “Ti yw fy noddfa,a'm rhan yn nhir y rhai byw.”
6 Gwrando ar fy nghri,oherwydd fe'm darostyngwyd yn isel;gwared fi oddi wrth fy erlidwyr,oherwydd y maent yn gryfach na mi.