1 ARGLWYDD, clyw fy ngweddi,gwrando ar fy neisyfiad.Ateb fi yn dy ffyddlondeb—yn dy gyfiawnder.
2 Paid â mynd i farn â'th was,oherwydd nid oes neb byw yn gyfiawn o'th flaen di.
3 Y mae'r gelyn wedi fy ymlid,ac wedi sathru fy mywyd i'r llawr;gwnaeth imi eistedd mewn tywyllwch,fel rhai wedi hen farw.
4 Y mae fy ysbryd yn pallu ynof,a'm calon wedi ei dal gan arswyd.
5 Yr wyf yn cofio am y dyddiau gynt,yn myfyrio ar y cyfan a wnaethost,ac yn meddwl am waith dy ddwylo.