2 Paid â mynd i farn â'th was,oherwydd nid oes neb byw yn gyfiawn o'th flaen di.
3 Y mae'r gelyn wedi fy ymlid,ac wedi sathru fy mywyd i'r llawr;gwnaeth imi eistedd mewn tywyllwch,fel rhai wedi hen farw.
4 Y mae fy ysbryd yn pallu ynof,a'm calon wedi ei dal gan arswyd.
5 Yr wyf yn cofio am y dyddiau gynt,yn myfyrio ar y cyfan a wnaethost,ac yn meddwl am waith dy ddwylo.
6 Yr wyf yn estyn fy nwylo atat ti,ac yn sychedu amdanat fel tir sych.Sela
7 Brysia i'm hateb, O ARGLWYDD,y mae fy ysbryd yn pallu;paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,neu byddaf fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
8 Pâr imi glywed yn y bore am dy gariad,oherwydd yr wyf wedi ymddiried ynot ti;gwna imi wybod pa ffordd i'w cherdded,oherwydd yr wyf wedi dyrchafu fy enaid atat ti.